dewch at fwrdd y gegin - come to the kitchen table




Mae Carreg Creative yn falch iawn o’r cyfle i gynnal y gofod celfyddydol yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio, yn Pencoed, 18-19 Mis Tachwedd 2025.

Dewch i ymuno â ni mewn gofod croesawgar sy’n dychmygu’r gynhadledd eleni fel Bwrdd Cegin yn llawn o brofiadau amrywiol.

Mae Bwrdd y Gegin yn ofod i ailwefru ac adfyfyrio wrth gydweithio ar weithgareddau dros baned. Mae’n gyfle i chi arafu a myfyrio am y profiadau, y cyfarfyddiadau a’r cwestiynau sydd wedi aros gyda chi wrth fynychu’r gynhadledd eleni. Y nod yw darganfod yr hyn sy’n gyffredin rhyngom, ac adnabod cysylltiadau. Drwy sgwrsio a chreu bydd Bwrdd y Gegin yn sbarduno darn o waith 3D newydd a fydd yn cwmpasu’r holl drafod, a’r holl gysylltiadau.

Gwahoddiad!

Rydym yn eich gwahodd i ddod ȃ gwrthrych sy’n cynrychioli cysylltiad i chi, er mwyn ei wehyddu i mewn i’r gwaith celf.

Dewch at Fwrdd y Gegin - bydd rhywun neu rhywbeth yn ymuno ȃ chi!

Dewch o hyd i ni yng nghyntedd y Ganolfan Astudiaethau Tir

Byddwn yno drwy gydol y gynhadledd, a byddwn yn cynnal sesiwn ar “Sut y gallai ymarferwyr creadigol gefnogi a gweithio gyda bwyd a ffermio yng Nghymru?” am 10.30am ddydd Mercher.

Carreg Creative is delighted to be hosting the arts space at the Wales Real Food and Farming Conference in Pencoed, 18-19 November 2025.

We invite you to join us in a friendly and welcoming alternative space, which we are imagining as The Kitchen Table of this year’s conference experience.

The Kitchen Table is a place to recharge and reflect through working together hands-on, while sharing a cuppa or a snack. It’s an invitation to slow down and mull over your conference experiences, encounters and questions. It’s all about finding common threads and drawing out connections. From conversation to creation – a 3D embodiment of our connections and conversations will flow from the kitchen table itself.

Invitation!

You are invited to bring an object that represents connection for you, to weave in to the artwork.

Come to The Kitchen Table – someone or something will join you!

Find us in the foyer of the Land-based Centre.

We will be there through the conference, and will be holding a session on “How might creative practitioners support and work with food and farming in Wales?” at 10.30am on the Wednesday


Carreg Creative @ 2024 Conference


 

cwrdd â’r tîm creadigol

Mae ein tîm dwyieithog yn cynnwys artistiaid, perfformwyr a beirdd profiadol gyda chefndir mewn bwyd, ffermio a’r amgylchedd. Rhyngom, rydym yn gweithio ym meysydd perfformio, ysgrifennu creadigol, barddoniaeth, ffilm, ffotograffiaeth, darlunio, peintio, gwneud printiau, a cherflunio.

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi!

MEET THE creative team

Our bilingual team consists of experienced artists, performers and poets with backgrounds in food, farming and the environment.  Between us, we work in performance, creative writing, poetry, film, photography, drawing, painting, print-making, and sculpture. 

We are looking forward to meeting you!


Artist ac addysgwr yw Lisa Hudson y mae ei hymarfer ymchwil yn seiliedig ar y celfyddydau yn cynnwys methodolegau creadigol ar gyfer dysgu myfyriol. Ar hyn o bryd mae Lisa’n gweithio ar y Platfform Mapiau Cyhoeddus, prosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn mapio profiad bywyd plant a phobl ifanc Ynys Môn, ac fel gweithiwr cymorth i artist niwroddargyfeiriol.

Lisa Hudson is an artist and educator whose arts-based research practice involves creative methodologies for reflective learning. Lisa is currently working on the Public Map Platform, an Arts and Humanities Research Council funded project, mapping the lived experience of children and young people on Anglesey, and as support worker to a neurodivergent artist.

 

Mae Lindsey Colbourne yn creu ymholiadau cydweithredol a chyfranogol sy’n bywiogi llefydd cyfarfod, gan greu cysylltiadau newydd a gweithio gyda gwahanol ffyrdd o wybod o amgylch ‘safle’ - lleoliad corfforol, maes gwybodaeth, gwrthdaro neu ddadl ddiwylliannol. 

Lindsey is a socially engaged artist who creates collaborative and participative inquiries. She tries to begin from a point of ‘un-knowing’ working with collaborators and participants to discover new human and more-than-human entanglements. To facilitate these spaces, she may use installation, video, photography, sound, text, drawing, walking, dialogue, websites, blogs, events or performance. Her current work includes Stori’r Tir Dyffryn Peris (including prosiect Enwau Caeau Nant Peris), Utopias Bach, Gofod Glas, Merched y Tir and Corlan y Coed. She has 30 years’ experience of collaboration and conflict resolution.

 

Mae Siân Barlow yn artist gweledol ac yn awdur o Sir Gâr. Caiff ei gwaith ei lywio gan ei chefndir mewn eiriolaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac fel Ymddiriedolwr Ty’r Eithin Farm Ltd, ac yn rhedeg cynllun bocsys llysiau organig.

Siân Barlow is a Carmarthenshire based visual and writer. Her work is informed by her backgrounds in health and social care advocacy, and as a Trustee of Ty’r Eithin Farm Ltd, and running an organic vegetable box scheme.

 

Mae Ffion Jones yn archwilio natur gymhleth hunaniaethau ffermio trwy ffilm a pherfformiad safle-benodol. Cafodd Ffion ei magu ar fferm ddefaid ucheldirol yng Nghymru a chaiff ei harfer artistig ei llywio gan ei gwybodaeth am hwsmonaeth anifeiliaid, diwylliant ac arferion ffermio. Mae hi’n ddarlithydd Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth – gyda phd mewn dulliau methodolegol Artistig a Rhyngddisgyblaethol at Ymchwil Gwledig. Mae Ffion yn aelod o Ferched y Tir.

Ffion Jones explores the complex nature of farming identities through film and site-specific performance. Ffion was brought up on an upland sheep farm in Wales and her artistic practice is informed by her knowledge of animal husbandry, farming culture and practice. She is a lecturer in Theatre and Performance at Aberystwyth University - with a phd in Artistic and Interdisciplinary methodological approaches to Rural Research. Ffion is a member of Merched y Tir.

 

Mae Elinor Gwynn yn awdur a bardd sydd ag angerdd dwfn dros yr amgylchedd, dros y celfyddydau ac am ffyrdd creadigol, rhyngddisgyblaethol o weithio. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau tirwedd, treftadaeth ac amgylchedd, ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector. Mae hi’n adolygydd cyson ar raglen gelfyddydol flaenllaw BBC Radio Cymru. Mae hi wedi’i chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith ysgrifennu, wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei cherdd rydd ‘Llwybrau’ yn 2016, hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ysgrifennu amgylcheddol yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Yn ddiweddar mae Elinor wedi cwblhau prosiect ymchwil doethurol a oedd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng iaith a thirwedd ym mywydau pob dydd pobl. Mae Elinor yn aelod o Ferched y Tir.

Elinor Gwynn is an award winning writer and poet who has a deep passion for the environment, for the arts and for creative, interdisciplinary ways of working. She has over twenty years’ experience of working in the landscape, heritage and environment sectors, both for public and third sector organisations. She is a regular reviewer on BBC Radio Cymru’s flagship arts programme. She has been nationally recognised for her writing work, awarded the National Eisteddfod Crown for her prose poem ‘Llwybrau’ (Paths) in  2016, also winning the competition for environmental writing at the 2023 National Eisteddfod.

Elinor has recently completed a doctoral research project which explored entanglements between language and landscape in people’s everyday lives. Elinor is a member of Merched y Tir.

 

 

This work is supported by Dr Iain Biggs, external reviewer.

Iain is an Honorary Research Fellow at the University of Dundee, a Visiting Research Fellow at Bath Spa University, and works with the PLaCE International (UK), LAND2, and Mapping Spectral Traces networks. He has had a Moore Institute Visiting Fellowship at the National University of Ireland, Galway, worked as a consultant on Swansea University’s Narrating Rural Change project and The Rural Reimagined: Connecting Irish and Scottish Artists and writers, both focused on creative practices which focus on rurality. He is currently an evaluator for Gleann na Phúca, A Glen River Creative Climate Action Project, located just outside Cork in the Irish Republic.