Myfyrdodau ar “Dewch at Fwrdd y Gegin” gan Carreg Creative yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, 2025

rhan 2 : CYDWEITHIO

Geiriau gan Siȃn Barlow, lluniau gan Lindsey Colbourne

Mis Mawrth 2026


“having an artist on a project
helps others to think differently
about the work”

Yn y rhan gyntaf  o'r blog hwn, "Bwrdd y Gegin", wnaethon ni roi trosolwg o waith Carreg Creative fel llinyn celfyddydol Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2025. Yma, rydyn yn rhannu rhai meddyliadau a phatrymau sy'n dod i'r amlwg o'n gwaith.


Fel rhan o'r bartneriaeth barhaus rhwng Carreg Creative a’r gynhadledd, rydyn yn parhau i archwilio'r cwestiwn - "Sut galli ymarferwyr creadigol gefnogi a gweithio gyda bwyd a ffermio yng Nghymru?" Ar ail ddiwrnod y gynhadledd, gofynnon ni bobl a oedd yn gweithio gyda ni ystyried y cwestiwn. Dechreuodd meddyliadau a geiriau ymddangos ar y lliain bwrdd ei hun, ac roedd chwe llinyn yn dod i'r amlwg: cysylltiad, harddwch, trawsffurfiad, dychymyg, amrywiaeth a dathlu.

Mae gwaith creadigol yn creu cysylltiadau

“→ finding
common ground

← meeting in the
middle (ground) liminal space - space between

← gathering different
groups people together who wouldn't usually
meet one another in daily lives”

Cysylltiad oedd thema ein gwaith creadigol. Hefyd roedd cysylltu yn ymddangos fel petai’n un o swyddogaethau llinyn celfyddydol y gynhadledd.

Roedd "Dewch at Fwrdd y Gegin" yn helpu’r gynhadledd i ymgartrefu mewn mewn lle rhyfeddol fel Coleg Pencoed. Wrth fod yng nghyntedd y coleg yn ystod y gynhadledd, gwneud newidiadau rhyfedd a llenwi’r gofod â gwrthrychau a gweithgareddau gweledol diddorol, fe wnaethon ni weithredu fel pont, gan gysylltu'r gynhadledd â myfyrwyr a staff. Mae cysylltu â phobl a lleoedd yn golygu tynnu ar y gorffennol. Wnaethon ni hynny trwy weithio gyda gwrthrychau, a gyda thoriadau papur newydd o ddechrau'r 20fed ganrif ar gyfer “Pencoed Mutual Improvement Society”. Fel yr ysgrifennodd rhywun ar y lliain bwrdd, gall arferion creadigol “dod â hanes + treftadaeth i mewn i’r gofod".

Yn ogystal, roedden ni’n gallu cefnogi llif cyfranogwyr y gynhadledd rhwng y sesiynau trwy ein presenoldeb yn y cyntedd  a helpu pobl dod o hyd i'r hyn yr oedden nhw ei angen. Yn y cyfamser, roedd Lisa Hudson o Carreg Creative yn gweithio i greu map rhyngweithiol ar-lein, gan gynorthwyo cyfranogwyr i gysylltu ledled Cymru drwy roi eu hunain a'u gwaith ym maes bwyd a ffermio ar y map.

Roedd y "pethau ychwanegol" hyn yn gwella ein gwaith cerfluniol: adeiladu perthnasau bach o ymddiried wrth i bobl fynd a dod, ac yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydden nhw’n neilltuo i amser i oedi wrth "Fwrdd y Gegin", ac yn fwy llawen wrth wneud hynny. Wrth edrych yn ôl a myfyrio, sylweddolon ni ein bod ni ein hunain wedi dod yn elfen gysylltiol bwysig yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2025.

gall gwaith creadigol ein helpu ni i weld harddwch

Mae'r materion bwyd a ffermio yn cael eu teimlo i’r byw ac yn cael eu herio'n gadarn. Mae pryder go iawn a difrifol ar bob ochr: am ein hamgylchedd, ein cymunedau, ein diwylliant, ein dyfodol. Ydy cymryd amser i siarad am harddwch yn tynnu ein sylw oddi ar y lle y byddai’n  fwyaf ddefnyddiol? Pam ydy harddwch yn bwysig?

Clywon ni’r geiriau "hardd" a "harddwch" dro ar ôl tro wrth fwrdd y gegin. Er enghraifft, dywedodd Sophie, myfyrwraig Coleg Pencoed a oedd yn cymryd rhan yn y gwaith creadigol, “y gall artistiaid helpu ffermwyr trwy wneud y fferm yn brydferth".  Efallai fod pobl wedi siarad am harddwch oherwydd, ochr yn ochr â'n synnwyr o gysylltiad, mae gweld a theimlo pethau yn y byd o ran eu prydferthwch yn ffordd yr ydym yn darganfod ein synnwyr o ystyr, perthyn a gwerth. Ac mae'r rhain yn eu tro yn berthnasol i sut rydyn ni’n gofalu am y byd o'n cwmpas. Felly, mae sylwi ar harddwch yn dod â ni yn ôl at y cwestion - sut rydyn ni’n mynd ati i wneud y gwaith sydd o'n blaenau?

A conventional farmer 
on behalf of 
A
beautiful world



gwaith creadigol fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol 

“DISRUPT THE NORM
so that people have a space
so they have permission 
to do something different
even if just for a minute

→ or think 
in a 
different 
way

→ time as 
just a belief 
- people worry
too much
- they feel limited
by it

→ even just an hour a week 
can make a difference”



Gall ymarferwyr creadigol fynd at eu gwaith mewn ffyrdd sy'n ymddangos yn rhyfedd i weithwyr mewn meysydd eraill. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n dechrau gweithio trwy fynd am dro, cael nap, brwsio’r llawr, neu syllu ar y wal. Mae hyn yn swnio'n braf, ond gall fod yn anodd ei wneud – oherwydd mae'n gwrthwynebu'r norm. Ond mae’r rheolau yn wahanol ar gyfer gwaith creadigol: dw i ddim yn "gwneud y gwaith" trwy ddilyn camau penodol i ddatrys problemau benodol, dw i’n dod o hyd i ffyrdd o greu’r amodau ar gyfer chwarae rhydd. Pan fydda i wedi mynd allan o fy ffordd fy hun, gall gwaith creadigol ddigwydd - ar ei ben ei hun. Nid yw gwaith creadigol felly, yn gwneud synnwyr fel y mae gwaith sy’n cael ei wneud gan beiriant, o ran achos ac effaith ac wedi’i fesur gan y cloc. Gall y ffordd hon o weithio fod yn annifyr, ac mae'n ein gwneud yn agored i aflonyddwch, gan dorri ar draws mynediad at gategorïau a ffyrdd o weld. Nid yw'n glir os gall gwaith greadigol go iawn ddigwydd os ydyn ni’n meddwl am ein gwaith yn nhermau deilliannau neu fel datrysiad i broblemau.

Dychymyg: "→ ffyrdd gwahanol o feddwl a dychmygu"


“support the 
farm team to 
dream up  / imagine 
how the farm could 
be”

Rwyf wedi clywed sôn nad yw dychymyg yn perthyn i ni, ond yn hytrach, dychymyg sydd bia ni. Rwy'n ffeindio hyn yn syniad diddorol a dychmygus.

Gadewch i ni ddychmygu felly, y gallwn ymarfer (a gwella) trwy waith creadigol, a gadael i’n hunain gael ein meddiannu gan ddychymyg. Efallai ein bod yn ymarfer rhoi gwahoddiad i ddychymyg i'n hystafell. Neu efallai ein bod yn ymarfer gadael yr ystafell er mwyn  archwilio'r gofod lle mae dychymyg yn byw. Dyma rai o'r sylwadau a ysgrifennwyd ar y lliain bwrdd am ddychymyg. Maen nhw’n rhoi arwydd o beth sydd yn y fantol wrth i ni ymgymryd â’r ymarfer hwn: "mae celf a gofodau fel hyn yn hanfodol → bydd ein dyfodol yn cael ei adeiladu / etifeddu trwy ein dychymyg", a "heb ddychymyg nid oes gennym ddyfodol".

“Mewn gwaith creadigol, gallwn greu mannau lle mae gwahaniaethau yn cael eu gwerthfawrogi, a lle gall cyfranwyr â dulliau amgen ffynnu”

Ysgrifennodd rhywun y sylw hwn, yn cysylltu gwaith creadigol ac amrywiaeth: "gwerthfawrogi a dod â ffyrdd eraill o wybod".

Yn ystod y gynhadledd, y cyfranogwyr a oedd yn ymwneud fwyaf cyson â'r gwaith creadigol yn "Bwrdd y Gegin" oedd myfyrwyr Coleg Pencoed. Roedd rhai, am wahanol resymau, yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at sesiynau mwy ffurfiol y gynhadledd (fel sgyrsiau, gweithdai neu baneli). Roedd eu cyfraniadau i'r gosodwaith creadigol, yn y cyfamser, yn ddwfn. 

And we find, on the tablecloth another strange little poem, summing up the experience, and drawing to our attention the constant quiet accompaniment of the “more-than-human” conference participants:  

a majority of 
the cudgels
tables, eggs, and flowers
took part.
 

Ac yn olaf, dathlu! Canmol, diolchgarwch a rhoi sylw i'r hyn sy'n digwydd

All about 
women 
men of thought or men of action
heavy rain
bumblebees 
chickens 
communities 
bwyd 
both sides 
Soil
SCHOOLS
Earthworms 
busnes gwledig
WELSH VEG 
cymunedau 
horticulture enterprises 
an original poem
fruit, flowers, and vegetables
Working Together 
yn Cydweithio

thank you

soil