Myfyrdodau ar “Dewch at Fwrdd y Gegin” gan Carreg Creative yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, 2025
rhan1: Bwrdd y Gegin
Geiriau gan Siȃn Barlow Siȃn Barlow, lluniau gan Lindsey Colbourne
Mis Mawrth 2026
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni yn Carreg Creative yn ddiolchgar ein bod wedi cael y cyfle i ddod â llinyn celfyddydol i Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru. Yn y rhan gynta o'r blog dwy ran yma, rydyn yn disgrifio llinyn celfyddydol cynhadledd 2025, yn rhannu lluniau, ac yn cynnig rhywfaint o gefndir i'r gwaith
Mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn cynnig digwyddiad blynyddol sy'n anelu at roi maeth ac ysbrydoliaeth i bobl sy'n gweithio yn y maes bwyd a ffermio yng Nghymru a thu hwnt. Efallai fod "gwir fwyd a ffermio" yn golygu gwahanol bethau i bobl wahanol, ond mae'n teimlo'n wir i ddweud bod ymrwymiad ar y cyd i beidio dieithrio pobl o’r byd naturiol, ond eu cynnwys adref yma; ac i waith sy'n cael ei wneud gyda gofal. Wrth ddylunio ein gwaith, rydyn wedi cymryd nodau'r gynhadledd (o faeth ac ysbrydoliaeth) o ddifri, ac mae lletygarwch a gweithio gyda gofal wedi bod yn egwyddorion pwysig i ni.
“Dewch at Fwrdd y Gegin”
Teitl cynhadledd 2025 oedd "Cymunedau, Bwyd a Ffermio, Yn Cydweithio".
Wnaethon ni gymryd, fel man cychwyn, y ddelwedd o bobl yn gweithio gyda'i gilydd o amgylch bwrdd y gegin. Mae bwrdd y gegin yn lle bwyta ac yfed, sydd hefyd yn rhywle i goginio, sgwrsio, hela clecs, trefnu a chrefftio; lle gwaith a chyfarfod. Rydyn yn mynd yno i wneud y mathau o waith sy’n digwydd pan fo rhywbeth yn amal yn torri ar ein traws. Mae eistedd wrth fwrdd y gegin yn ein rhoi ni ym mhresenoldeb unrhyw beth neu bopeth yn y gymuned ehangach sy'n ein hamgylchynu: anifeiliaid, planhigion, pobl o bob oedran, a phentyrrau o bob math o bethau. Eisteddwch wrth fwrdd y gegin a bydd rhywun neu rhywbeth yn ymuno â chi!
Cynhaliwyd y gynhadledd ar gampws coleg Pencoed, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda "Bwrdd y Gegin" wedi ei leoli yng nghyntedd yr adeilad astudiaethau, sef yr adran ar gyfer myfyrwyr amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid. Mae ‘na heriau a’r annisgwyl i’w wynebu wrth dreulio cyfnod estynedig mewn cyntedd coleg, ac mewn gweithio'n greadigol yno. Mae cyntedd yn ofod cysylltu: yn debyg i fwrdd cegin mewn un ffordd, ond mewn ffyrdd eraill yn debycach i groesffordd.
Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, aeth llawer o bobl drwy’r cyntedd: cyfranogwyr y gynhadledd ar eu ffordd i wahanol sesiynau; myfyrwyr a staff y coleg yn dilyn eu llwybrau dyddiol; a phobl yn chwilio am bethau – am leoliad, am berson neu am bobl, am baned neu’r tŷ bach. Y llif yna oedd y rheswm i ni fod yno, lle byddai pawb yn siŵr o ddod ar ein draws ni.
Yn dryw i’n hegwyddorion - gofal a lletygarwch - roedden ni’n cynnig parth amgen ychwanegol i'r mannau cynadledd eraill: rhywle croesawgar lle gallai pobl arafu, ailwefru ac adfyfyrio, wrth gydweithio ar weithgareddau dros baned. Wedyn, wnaethon ni estyn gwahoddiad i weithio ar ddarn o waith creadigol 3D a oedd yn dechrau ar y bwrdd ei hun.
Thema’r gynhadledd oedd archwilio'r cysylltiadau rhwng cymunedau a ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd. Felly, wnaethon ni ganolbwyntio ar cysylltiad fel thema. Gofynnon ni i bobl ystyried beth allai cysylltiad ei olygu, ac i greu cysylltiadau o fewn y gwaith 3D. Roedden ni'n gweithio gyda'n dwylo, gan ddefnyddio deunyddiau, offer a gwrthrychau - felly nid ymarfer meddyliol oedd hwn, ond archwiliad materol o gysylltiadau. Tyfodd y gwaith yn organig iawn, o'r bwrdd, a thrwy’r cyntedd.
i gloi
Credwn fod y gwaith wedi codi calon, gan roi maeth ac ysbrydoliaeth. Dwedodd rhywun wrth basio, "I wish this was always here".
Dwedodd rhywun wrth basio, "I wish this was always here". Roedd y gwaith yn chwareus a chyfeillgar, gyda chymeriad croesawgar. Roedd fel petai ganddo fywyd ei hun, ac roedd yn ymgysylltu'n gorfforol, gan ddenu pobl i edrych arno, cerdded o'i gwmpas, ei gyffwrdd a'i werthfawrogi. Roedd yn rhydd ac yn grwydrol yn ei ffurf, ac roedd yn newid trwy’r amser. Roedd ei rinweddau o harddwch a dychymyg yn amlwg ar unwaith.
Tua diwedd yr ail ddiwrnod, fe wnaethon ni ei dynnu ar wahân yn ofalus a rhoi'r gwrthrychau bach rhyfedd i'r bobl a oedd yn mynd adref.
Yn yr ail ran o'r blog hwn, "Cydweithio", byddwn yn rhannu mewnweliadau a phatrymau a amlygodd eu hunain wrth i ni archwilio’r ffyrdd y gall ymarferwyr creadigol gefnogi a gweithio'n ffrwythlon gyda'r bobl sy'n gweithio ym maes bwyd a ffermio yng Nghymru.
LINKS: